Bil Trawsblannu Dynol (Cymru) – Ystyriaeth Cyfnod 1
At:
Y Pwyllgor Iechyd a
Gofal Cymdeithasol
Gan:
Y Swyddfa
Ddeddfwriaeth
Dyddiad y cyfarfod:
5 Rhagfyr
2012
Diben
3. Ar 20 Tachwedd 2012, cytunodd y Pwyllgor Busnes y dylid cyfeirio’r Bil at y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol (‘y Pwyllgor), gan nodi bod angen cyflwyno adroddiad arno erbyn 22 Mawrth 2013.
4. Ar 3 Rhagfyr 2012, cafodd y Bil a’r Memorandwm Esboniadol eu cyflwyno gan Lesley Griffiths AC, y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol. Gwnaeth ddatganiad hefyd yn y Cyfarfod Llawn ar 4 Rhagfyr 2012.
5. Mae’r Gwasanaeth Ymchwil wedi paratoi papur yn rhoi cefndir y Bil ac mae’r ddogfen hon ar gael ar wahân.
6. Rôl y Pwyllgor yng Nghyfnod 1 yw ‘ystyried egwyddorion cyffredinol y Bil a chyflwyno adroddiad arnynt’ (Rheol Sefydlog 26.10)
7. Nid oes gofynion penodol yn y Rheolau Sefydlog sy’n rheoli’r modd y bydd y Pwyllgor yn ymgymryd â’r gwaith craffu hwn. Felly, mae cylch gorchwyl drafft ym mharagraff 9 yn y papur hwn ac, ym mharagraffau 10-15, awgrymir sut y gellid ymgymryd â’r gwaith craffu.
8. Ar ôl i’r Pwyllgor gyflwyno adroddiad, bydd dadl Cyfnod 1 yn cael ei chynnal yn y Cyfarfod Llawn. Ar ddiwedd y ddadl hon, gofynnir i’r Cynulliad gytuno ag egwyddorion cyffredinol y Bil. Os caiff yr egwyddorion cyffredinol eu derbyn, bydd y Bil yn mynd ymlaen i Gyfnod 2, pan fydd y Pwyllgor yn trafod ac yn gwaredu gwelliannau’r Pwyllgor (ar hyn o bryd, bwriedir cynnal Cyfnod 2 ym mis Mai/Mehefin 2013).
Y cylch gorchwyl drafft
9. Wrth graffu ar egwyddorion cyffredinol y Bil yng Nghyfnod 1, awgrymir bod y Pwyllgor yn cytuno ar y cylch gorchwyl a ganlyn:
Ystyried egwyddorion cyffredinol y Bil a’r angen i ddeddfu i gynyddu nifer yr organau a’r meinweoedd sydd ar gael i’w trawsblannu drwy gyflwyno system feddal o optio allan o’r drefn o roi organau a meinweoedd yng Nghymru, drwy gyfeirio at:
1. Y darpariaethau unigol yn y Bil—
§ Adran 2, yn ymwneud â hyrwyddo trawsblannu,
§ Adran 3, yn ymwneud â gweithgareddau trawsblannu cyfreithlon,
§ Adrannau 4-8, yn ymwneud â rhoi caniatâd
§ Adrannau 9-11, yn ymwneud â throseddau,
§ Adrannau 29-37, sy’n gwneud darpariaethau cyffredinol.
2. Unrhyw rwystrau posibl rhag rhoi’r darpariaethau hyn ar waith ac a yw’r Bil yn eu hystyried.
3. Goblygiadau ariannol y Bil (fel y nodir yn Rhan 2 o’r Memorandwm Esboniadol, yr Asesiad Effaith Rheoleiddiol, sy’n amcangyfrif y costau a’r buddion sydd ynghlwm wrth roi’r Bil ar waith.
4. Pa mor briodol yw’r pwerau yn y Bil i Weinidogion Cymru wneud is-ddeddfwriaeth (fel y nodir yn Rhan 1, paragraff 91 o’r Memorandwm Esboniadol, sy’n cynnwys tabl yn crynhoi’r pwerau i Weinidogion Cymru wneud is-ddeddfwriaeth).
10. Yn unol â’r terfyn amser a bennwyd gan y Pwyllgor Busnes, bydd angen i’r Pwyllgor orffen craffu ar y Bil a pharatoi adroddiad arno erbyn 22 Mawrth 2013 fan bellaf.
11. Mae’r terfyn amser yn golygu bod yn rhaid ymgymryd â’r gwaith hwn ymhen 10 wythnos fusnes, er y bydd yn rhaid ei gyflawni’r un pryd â gwaith polisi a deddfwriaeth arall y Pwyllgor.
12. Mae’r Pwyllgor wedi cytuno eisoes ar y dull cyffredinol a ganlyn o graffu ar ddeddfwriaeth yng Nghyfnod 1:—
§
Cais am dystiolaeth ysgrifenedig
Gwahodd sefydliadau ac unigolion penodol i gyflwyno
tystiolaeth ysgrifenedig. Mae rhestr o ymgynghoreion posibl ynghlwm
yn Atodiad 1.
§
Tystiolaeth lafar
Gwahodd y prif randdeiliaid i roi tystiolaeth lafar mewn
cyfarfodydd yn y dyfodol (a chynnal yr ymgynghoriad yr un pryd).
Mae rhestr o dystion posibl o’r sectorau perthnasol ynghlwm
yn Atodiad 2.
13. Mae’r terfyn amser ar gyfer cyflwyno adroddiad yn caniatáu cyfnod ymgynghori o chwe wythnos, rhwng 7 Rhagfyr 2012 ac 18 Ionawr 2013.
14. Bydd y dystiolaeth ysgrifenedig a llafar a gesglir yn helpu i lywio trafodaethau’r Pwyllgor wrth iddo graffu ar y Bil ac wrth iddo baratoi ei adroddiad.
15. Er gwybodaeth, mae Rheolau Sefydlog y Cynulliad yn caniatáu i’r Pwyllgor Cyllid a’r Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol adrodd ar yr agweddau perthnasol ar y Bil.
16. Gwahoddir y Pwyllgor i gytuno ar:
§ y cylch gorchwyl drafft (a amlinellir ym mharagraff 9);
§ ei ddull o graffu yng Nghyfnod 1 (a amlinellir ym mharagraffau 10 – 15);
§ ymgynghoriad chwe wythnos a’r rhestr o ymgynghoreion (Atodiad 1);
§ y rhestr o dystion posibl (Atodiad 2).
Atodiad 1
Unigolion/sefydliadau posibl y gellid cysylltu â nhw i ofyn am dystiolaeth ysgrifenedig:
Byrddau Iechyd lleol/Ymddiriedolaethau’r GIG
Gwasanaeth Ambiwlans Cymru
Iechyd Cyhoeddus Cymru
Pwyllgor Gwasanaethau Iechyd Arbenigol Cymru
Arweinwyr Clinigol ym maes Rhoi Organau
Nyrsys Arbenigol ym maes Rhoi Organau
Bwrdd Gwaed a Thrawsblaniadau’r GIG
Timau Tynnu Organau
Rhwydwaith Arennau Cymru Gyfan
Bwrdd y Cynghorau Iechyd Cymuned
Rhwydweithiau Gofal Critigol
Rhwydweithiau’r Galon
Grŵp Cynghori ar Organau a Thrawsblaniadau Cymru Gyfan
Coleg Brenhinol y Llawfeddygon
Coleg Brenhinol y Ffisigwyr
Cymdeithas Trawsblaniadau Prydain
Y Coleg Meddygaeth Frys
Cydffederasiwn GIG Cymru
Coleg Brenhinol yr Anaesthetyddion
Coleg Brenhinol yr Ymarferwyr Cyffredinol
Coleg Brenhinol y Nyrsys
Coleg Brenhinol Pediatreg ac Iechyd Plant
Coleg Brenhinol y Patholegwyr
Coleg Brenhinol y Bydwragedd
Coleg Brenhinol yr Ophthalmolegwyr
Coleg Brenhinol y Radiolegwyr
Academi'r Colegau Brenhinol yng Nghymru
Cyfadran Meddygaeth Gofal Dwys
Cymdeithas Feddygol Prydain
Crwneriaid Cymru
Pwyllgorau Cynghorol Statudol Iechyd
Cymdeithas Gofal Dwys Pediatrig
Cymdeithas Gofal Dwys Cymru
Sefydliad Aren Cymru
Cymdeithas Cleifion Arennau Cymru
Trawsblannu 2013
Diabetes UK
Sefydliad Prydeinig y Galon
Epilepsy Action Cymru
Cynghrair Iechyd Meddwl Cymru
Plant yng Nghymru
Cynghrair Niwrolegol Cymru
Sefydliad Prydeinig yr Ysgyfaint
DeafBlindUK
Action on hearing loss (RNID gynt)
Anabledd Dysgu Cymru
MIND Manager for Influence and Change
Shelter Cymru
Yr Ymddiriedolaeth Ffibrosis Systig
British Liver Trust
Live Life then Give Life
Anabledd Cymru
British Organ Donor Society
Kidney Research UK
Y Gymdeithas Haemoffilia
Cymdeithas y Cleifion
Yr Awdurdod Meinweoedd Dynol
Cymdeithas Dyneiddwyr Prydain
Donor Family Network
Cytûn
Archesgob Cymru
Yr Eglwys Gatholig
Cynghrair Efengylaidd Cymru
Cyngor Eglwysi Rhyddion Cymru
Ffydd Baha’I
Cyngor Bwdhaidd Cymru
Buddhistcouncilofwales.org.uk
Y Deml Shree Swaminarayaidd
Y Deml Hindŵaidd, yr Eglwys Newydd
Iddewiaeth Ddiwygiedig
Cyngor Mwslimiaid Cymru
Access for Black Children with Disabilities
Y Ganolfan Gymuned Affricanaidd
Prosiect Neville Street Barnados
Black Association of Women Step Out
Rhwydwaith Sector Gwirfoddol Pobl Dduon
Prosiect Sipsiwn a Theithwyr Caerdydd
Gwasanaeth Addysg i Deithwyr Caerdydd
Tîm Cymorth Ieuenctid Ethnig
Rhwydwaith Menywod Lleiafrifoedd Ethnig Cymru
Rhwydwaith Cydraddoldeb Gogledd Cymru
Race Equality First
Cydraddoldeb Hiliol De-ddwyrain Cymru
Cymdeithas Integreiddio Somaliaid
Somali Progressive Association
Cyngor Cydraddoldeb Hiliol De-ddwyrain Cymru
Cyngor Cydraddoldeb Hiliol Bae Abertawe
Taha Idris
Tai Pawb
Sefydliad Henna
Diverse Cymru
Cyngor Cydraddoldeb y Cymoedd
Partneriaeth Ymfudo Strategol Cymru
Cyngor Ffoaduriaid Cymru
Comisiynydd Plant Cymru
Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru
Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol
Comisiynydd y Gymraeg
Cymdeithas Gofal Iechyd Annibynnol Cymru
Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru
Un Llais Cymru
CBI Cymru
Swyddfa Archwilio Cymru
Heddluoedd Cymru
Undebau Llafur
Ymatebodd yr isod i ymgynghoriad Llywodraeth Cymru
Yr Athro Ceri Phillips – Prifysgol Abertawe
Yr Athro John Saunders – Pwyllgor Rhoi Organau Ysbsyty Neville Hall a Chadeirydd Pwyllgor Materion Moesegol mewn Meddygaeth Coleg Brenhinol y Ffisigwyr
Dr Abdalla Yassin Mohamed – Cyfarwyddwr Cymdeithas Gwasanaethau Cymdeithasol Islamaidd Caerdydd
Society for the Protection of Unborn Children
Undeb Bedyddwyr Cymru
Eglwys Fethodistaidd Cymru
Orthodox Wales
Eglwys Bresbyteraidd Cymru
Cymdeithas Fferyllol Frenhinol Cymru
Cyngor Cymuned Llantrisant Fawr
Cyngor Cymuned Llanarmon yn Iâl
Cyngor Cymuned Sealand
Cyngor Tref Llanelli
Cenhadaeth Uniongred Cymru
Synod Cymru Eglwys Fethodistaidd Cymru
Cyngor Cymuned Llangathen
Cyfadran Meddyginiaeth Gofal Dwys Llundain
Cyngor Tref yr Wyddgrug
Eglwys y Bedyddwyr Mynwy
Cyngor Cymuned Llangunnor
Prosiect Nos Wener Cartrefi Cymru
Cymdeithas y Cyfreithwyr
Cyfadran Iechyd, Chwaraeon a Gwyddoniaeth Prifysgol Morgannwg
Soroptimist International Port Talbot
Cyngor Tref Penfro
Canolfan Cydraddoldeb a Hawliau Dynol y GIG
Y Comisiynydd Gwybodaeth
Iechyd, Moeseg a’r Gyfraith, Prifysgol Southampton
Christian Medical Fellowship
UK Donation Ethics Committee
Canolfan Gymuned SKLP
Canolfan India
Eglwys y Bedyddwyr Albany Road
Cyngor Tref Llanandras a Norton
Atodiad 2
Y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol |
|
|
|
Tystion posibl |
|
|
|
|
|
|
|
Dyddiad y papur: |
3 Rhagfyr 2012 |
Cynhyrchwyd y papur hwn gan y Gwasanaeth Ymchwil i’w ddefnyddio gan y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol. I gael rhagor o
wybodaeth, cysylltwch â Victoria Paris yn y Gwasanaeth
Ymchwil |
|
Tystion posibl
Diben y papur hwn yw awgrym tystion a allai gynnig tystiolaeth lafar ar gyfer Cam 1 o’r gwaith o graffu ar y Bil Trawsblannu Dynol (Cymru).
Darparwyr Gofal Iechyd
¡ Cydffederasiwn GIG Cymru – mae’n cynrychioli holl gyrff y GIG yng Nghymru. Yn benodol, Arweinwyr Clinigol ar Roi Organau (CLOD) a Nyrsys Arbenigol ar Roi Organau) (SNODs).
¡ Academi'r Colegau Brenhinol yng Nghymru- ei rôl yw hyrwyddo, hwyluso a, lle y bo’n briodol, cydgysylltu gwaith y Colegau Meddygol Brenhinol a’u cyfadrannau er budd cleifion a gofal iechyd. Mae’r Academi yn cynnwys llywyddion y Colegau Meddygol Brenhinol a’r Cyfadrannau sy’n cyfarfod yn rheolaidd i gytuno ar gyfeiriad eu gwaith.
Trawsblannu organau
¡ Gwaed a Thrawsblaniadau’r GIG: Cyfarwyddiaeth Rhoi Organau a Thrawsblaniadau (ODT) - ei rôl allweddol yw sicrhau bod organau sy’n cael eu rhoi i’w trawsblannu yn cael eu dyrannu i gleifion mewn modd teg a diragfarn. Nid oes gan y Gyfarwyddiaeth berthynas uniongyrchol â chleifion ac nid yw’n darparu gofal ymarferol. Mae’n rheoli Cofrestr Trawsblannu’r DU ac yn cadw Cofrestr Rhoi Organau Genedlaethol y GIG.
¡ Yr Awdurdod Meinweoedd Dynol - corff gwarchod sy’n ennyn hyder y cyhoedd drwy roi trwyddedau i gyrff sy’n cadw ac yn defnyddio meinweoedd dynol at ddibenion gwaith ymchwil, trin cleifion, archwiliadau post-mortem, dysgu ac arddangosfeydd cyhoeddus. Mae’n gofalu bod meinweoedd dynol yn cael eu defnyddio’n ddiogel ac yn foesegol, a chyda’r caniatâd priodol.
¡ Cymdeithas Trawsblaniadau Prydain - llais proffesiynol o blaid trawsblannu yn y DU, sy’n cynrychioli’r holl wahanol ddisgyblaethau ym maes trawsblannu gan gynnwys clinigwyr, nyrsys, fferyllwyr, gwyddonwyr sy’n ymwneud â gwaith ymchwil sylfaenol neu ac sy’n gweithio mewn labordai histogydnawsedd, moesegwyr a gweithwyr proffesiynol eraill sy’n gweithio mewn meysydd cysylltiedig â meddygaeth.
Moeseg a hawliau dynol
¡ Pwyllgor Moeseg Rhoi Organau’r DU (UKDEC)- ffynhonnell gwybodaeth ac arweiniad annibynnol ynghylch agweddau moesegol ar roi a thrawsblannu organau. Ei nod yw ennyn hyder proffesiynol a chyhoeddus yn sylfaen moesegol y penderfyniadau a’r prosesau’n ymwneud â rhoi organau. Mae UKDEC yn rhan o Academi'r Colegau Brenhinol.
¡ Cyngor Biofoeseg Nuffield– Corff annibynnol sy’n archwilio ac yn adrodd ar faterion moesegol ym maes bioleg a meddygaeth.
Ffydd a Phobl Dduon a Lleiafrifoedd Ethnig
¡ Cyngor Mwslimiaid Cymru - corff ymbarél annibynnol a chynhwysol sy’n cynrychioli buddiannau Mwslimiaid Cymru.
¡ Cyngor Cynrychioli Iddewon De Cymru- elusen Iddewig sy’n dwyn prif gyrff Iddewig Prydain ynghyd i weithio er bydd y gymuned Iddewig ym Mhrydain.
¡ Rhwydwaith Rhyng-ffydd Cymru - corff ymbarél sy’n dwyn llawer o gymunedau ffydd a chymunedau ysbrydol Cymru ynghyd.
¡ Rhwydwaith Sector Gwirfoddol Pobl Dduon yng Nghymru- corff ymbarél, sy’n cynrychioli, yn cynorthwyo ac yn hyrwyddo buddiannau cymunedau pobl dduon a lleiafrifoedd ethnig a’r Sector Gwirfoddol Pobl Dduon a Lleiafrifoedd Ethnig yng Nghymru.
Y sector gwirfoddol
¡ Patient Concern – maent yn casglu sylwadau gan gleifion ac yn eu defnyddio i ymgyrchu dros wella’r gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol ledled y DU.
¡ Cynghrair Iechyd Meddwl Cymru – llais sy’n cynrychioli’r holl gyrff gwirfoddol cenedlaethol yng Nghymru sy’n gweithio ym maes iechyd meddwl.
Academyddion
Yr Athro Ceri Phillips - Athro Economeg Iechyd a Dirprwy Bennaeth Ysgol (Ymchwil) Prifysgol Abertawe. Mae gwahanol gyrff wedi’i gomisiynu i weithio iddynt, gan gynnwys Sefydliad Iechyd y Byd, Llywodraeth Cymru, yr Adran Iechyd, yr Adran Gwaith a Phensiynau a gwahanol awdurdodau iechyd a chwmnïau fferyllol. Yn 2009, fe’i penodwyd i Gomisiwn Bevan gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol ar y pryd, i oruchwylio strwythur newydd GIG Cymru. Mae’n aelod o Grŵp Strategaeth Feddyginiaethau Cymru Gyfan ac ef yw Is-gadeirydd y Grŵp Meddyginiaethau sy’n gwneud argymhellion i’r Grŵp Strategaeth. Mae wedi cyfrannau at y gwaith o greu a datblygu Strategaeth Iechyd Galwedigaethau Cymru. Yn ogystal â hyn, mae wedi bod yn aelod o Grwpiau Datblygu Rhaglenni NICE a fu’n trafod amrywiol bynciau ym maes iechyd cyhoeddus. Ar raglen Week In Week Out ar y BBC, dywedodd yr Athro Phillips y gallai’r system optio allan arwain at fuddion ariannol hirdymor , fel arbed arian ar driniaeth dialysis i gleifion sy’n aros am aren newydd, ond y gallai hefyd greu problemau ychwanegol i ysbytai a oedd eisoes dan bwysau o ran gwelyau gofal critigol ac amser theatr.
Yr Athro John Saunders– Ymgynghorydd sy’n bennaeth ar bwyllgor rhoi organau yn Ysbyty Nevill Hall, y Fenni, ac sy’n cadeirio Pwyllgor Moeseg Coleg Brenhinol y Ffisigwyr. Ar raglen Week In Week Out y BBC, tanlinellodd yr Athro hefyd ei bryder ynghylch y pwysau ychwanegol ar unedau gofal dwys ac y byddai angen buddsoddi rhagor yn y cyfleusterau hynny. Roedd yn pryderu hefyd y gallai cael cofrestr ‘r rhai sy’n dewis rhoi eu horganau a system optio allan ddrysu cleifion, gan arwain at ostyngiad yn nifer yr organau a fydd ar gael i’w trawsblannu.
Yr Athro John Fabre- Mae John Fabre yn gweithio yn yr Adran Hepatoleg a Thrawsblaniadau yn Ysgol Feddygol Coleg y Brenin Llundain. Mae’n gyn-gadeirydd Cymdeithas Trawsblaniadau Prydain. Y mae wedi dweud na ellir priodoli’r nifer uchel o Sbaenwyr sy’n dewis rhoi organau i’r ddeddfwriaeth optio allan newydd a gyflwynwyd yn Sbaen ac wedi dadlau nad oes tystiolaeth y bydd newid y gyfraith yn arwain at gynnydd yn nifer yr organau a fydd ar gael i’w trawsblannu.